Gofynnwch am fynediad am ddim os ydych yn byw yng Nghymru ac yn 60 oed neu'n hyn neu'n 16 oed neu'n iau.
Click here for English version of this page website link
Castell Dolwyddelan
Cestyll a mynyddoedd. Dolwyddelan ac Eryri. Cymheiriaid perffaith. Mae gwella ar waith natur yn haws dweud na gwneud ond maer castell hardd hwn ai gartref creigiog yn cydblethun wych. Maer diolch am hynny i Dywysog Gwynedd yng Ngogledd Cymru a llywodraethwr y rhan fwyaf o Gymru, Llywelyn Fawr.
Roedd Llywelyn ab Iorwerth (1173-1240), fel yi gelwid hefyd, yn adnabod ei filltir sgwâr yn well nag unrhyw un. Roedd Dolwyddelan, ynghyd â Dolbadarn a Phrysor, yn ffurfio casgliad o gadarnleoedd allweddol yn y mynyddoedd a oedd yn strategol bwysig i lywodraethwr Cymru. Ar Ôl cyfnod Llywelyn, trosglwyddwyd y castell iw wyr Llywelyn ap Gruffudd. Llwyddodd yntau i atal lluoedd Edward am gyfnod.
Yn ddiweddarach, ychwanegodd Llywelyn lenfur syn amgylchynur iard at y gorthwr mawreddog. Aeth y Saeson ymlaen i ail-atgyfnerthur castell ac ychwanegwyd twr hirsgwar arall. Ni fu mor llwyddiannus âr cyntaf. Efallai fod cyfiawnder wedir cwbl olion yn unig a welir or twr hwn heddiw.
Gydag ychydig gymorth pobl Oes Fictoria iw hadfer, maer gaer hon or 13eg ganrif bellach yn gampwaith.